Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd

Dydd Mercher 13 Ionawr 2016

Tŷ Hywel (Ystafell Gynadledda 21), Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd

Cofnodion

 

Yn bresennol

Cadeirydd: Mark Isherwood AC

 

Aelodau’r Cynulliad

Amh.

 

Rhanddeiliaid

Carole Morgan-Jones, NEA Cymru

Alison Powell, NEA Cymru

Andrew Regan, Cyngor ar Bopeth Cymru

Tomos Davies, NEA Cymru

Steve Woosey, Canolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru

Joanna Seymour, Cyngor Sir y Fflint

Eleri Griffiths, Shelter Cymru

Craig Anderson, Cymru Gynnes

Stuart Neill, Wales & West Utilities

 

Ymddiheuriadau

Shea Jones, Cartrefi Cymunedol Cymru

Lia Murphy - Ofgem

Claire Houston, Gofal a Thrwsio

Janet Finch-Saunders AC

1.       Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.   Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

2.       Croesawodd Mark Isherwood y gwesteion i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol a gofynnodd i bawb gyflwyno’u hunain.

 

3.       Rhoddodd Carole Morgan-Jones gyflwyniad ar ganllawiau NICE ar fynd i'r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf. Fel rhan o faniffesto Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016, mae'r Gynghrair wedi amlinellu pum blaenoriaeth allweddol i weithredu arnynt. Un o'r blaenoriaethau allweddol yw galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i roi canllawiau NICE ar waith yng Nghymru. 

 

4.       Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) uchel ei barch, ei ganllawiau iechyd cyhoeddus ar Tackling Excess Winter Deaths, Morbidity and the Health Risks Associated With Cold Homes[i].  Amlinellodd NICE nifer o argymhellion cynhwysfawr ar sut y mae'n rhaid i ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol weithredu i leihau'r risg o farwolaeth ac afiechyd sy'n gysylltiedig â byw mewn cartref oer.

 

5.       Amlinellodd Carole fod cysylltiad cydnabyddedig rhwng cartrefi llaith ac oer a'r effaith ar iechyd a lles.  Mae profi tlodi tanwydd a byw mewn cartref oer a llaith yn ffactorau cyfarwydd iawn sy'n cyfrannu at lefelau uwch o orbryder ac iselder.

 

6.       Mae trin y salwch sy’n cael ei achosi gan amodau tai gwael yng Nghymru yn costio tua £67 miliwn y flwyddyn i’r GIG.  Mae hyn yn 5% o'r gyllideb gyffredinol ar gyfer gofal iechyd sylfaenol yng Nghymru.  Amcangyfrifir fod tai gwael, sy'n cynnwys cyrhaeddiad addysgol is a llai o gyfleoedd bywyd, yn costio oddeutu £168 miliwn y flwyddyn i gymdeithas yng Nghymru .[1] 

 

7.       Yn ogystal, mae gan Gymru gyfraddau Marwolaethau Ychwanegol y Gaeaf (EWDs) annerbyniol o uchel.  Gellir atal llawer o farwolaethau ychwanegol y gaeaf os byddwn yn gwella effeithlonrwydd thermol cartrefi, ac yn cadw pobl yn gynnes yn ystod misoedd y gaeaf. Digwyddodd tua 43,900 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru a Lloegr yn 2014/15; y nifer uchaf ers 1999/00, gyda 27% yn fwy o bobl yn marw yn ystod misoedd y gaeaf o gymharu â misoedd eraill y flwyddyn. 

 

8.       Mae deuddeg argymhelliad penodol yng nghanllawiau NICE.  Mae'r argymhellion hyn yn cynnwys datblygu strategaeth gyffredinol (fel Cynllun Tywydd Oer) i fynd i’r afael â chanlyniadau iechyd cartrefi oer, nodi'r rhai y mae eu hiechyd yn fwyaf tebygol o ddioddef, asesu eu hanghenion gwresogi, sefydlu gwasanaeth cyfeirio ym maes iechyd a thai, a sicrhau y gallant fanteisio ar raglenni inswleiddio neu raglenni gwella systemau gwresogi a grantiau. 

 

9.       Yn ogystal â hyn, dylid hyfforddi amrywiaeth o unigolion a sefydliadau sy'n dod i gysylltiad â theuluoedd sy’n agored i niwed (gan gynnwys ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr tai proffesiynol, gweithwyr yn y sector gwirfoddol, peirianyddion systemau gwresogi, a gweithwyr sy’n gosod mesuryddion) i dynnu sylw at deuluoedd agored i niwed er mwyn eu helpu i wresogi ac inswleiddio’u cartrefi.

 

10.   Mae’r Gynghrair am i Lywodraeth nesaf Cymru fabwysiadu canllawiau NICE fel model parod i fynd i'r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf. 

 

11.   Bydd y Ganolfan Ynni Cynaliadwy yn olrhain sut mae Cyngor Bryste yn rhoi canllawiau NICE ar waith. Er ei fod yn strwythur iechyd gwahanol i'r hyn sy'n bodoli yng Nghymru, bydd yn sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol.

 

12.   Soniodd Craig Anderson am ei drafodaethau a’i gyfarfodydd diweddar gyda swyddogion yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn edrych ar sut y byddai Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae mwy a mwy o ganolbwyntio ar grwpiau incwm is.  I bob pwrpas, mae cronfeydd ECO yn cael eu haneru a grantiau’n cael eu torri'n ôl ar gyfer cynlluniau lleihau allyriadau carbon, felly nid yw hyn bellach yn sbardun i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud. Gallai symiau llai o arian fod yn mynd i dlodi tanwydd.

 

13.   Holodd Mark Isherwood a oedd canllawiau NICE wedi'u mabwysiadu’n swyddogol gan Lywodraeth y DU ar draws Lloegr, ond ni allai unrhyw un a oedd yn bresennol yn yr ystafell ateb yn bendant. Nododd fod angen buddsoddi’n sylweddol mewn hyfforddiant, ond nid oedd hynny’n golygu na ddylai ddigwydd.

 

14.   Dechreuodd Joanna Seymour y cyflwyniad ar y gwaith sy’n mynd rhagddo fel rhan o Wasanaeth Cynhesrwydd Fforddiadwy Sir y Fflint.  Trafododd Joanna nod y prosiect o dorri'r cylch o gartrefi oer - methu gweithio, ychydig o arian, cartref oerach a dyled tanwydd. Sefydlwyd cynllun Cynhesrwydd Fforddiadwy Sir y Fflint ar gyfer pobl sy'n parhau i fod ag angen cymorth ond sydd y tu allan i'r meini prawf ar gyfer ECO, NEST ac Arbed. Mae elfen 'frys' lle mae cyllid yn cael ei neilltuo i gynorthwyo pobl mewn sefyllfaoedd o argyfwng fel bod y cynllun yn gallu helpu pobl yn gyflym iawn. 

 

15.   Yn amlwg, mae hyn yn dibynnu ar gynnal y cyllid. Mae datblygiad y prosiect bellach yn cael rhagor o ystyriaeth.  Ystyrir dull sy'n seiliedig ar yr unigolyn fel nad yw, er enghraifft, ond yn ychwanegu at fesurydd yn unig ond yn edrych yn ddyfnach ar pam nad oes gan y person unrhyw incwm i wneud hynny.  Maent yn mabwysiadu ysbryd canllawiau NICE i edrych ar y person cyfan a’i iechyd a'i les.  Mae Joanna yn tynnu ar ei phrofiad o weithio yn y Wirral ar brosiect a oedd yn edrych ar dlodi tanwydd yng nghyd-destun materion ehangach yn ymwneud â sicrhau'r budd mwyaf a gwaith.  Mae gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Caerdydd brosiect cyfunol a elwir yn 'Cartrefi Iach Pobl Iach' a ariennir gan y Gronfa Cartrefi Iach a Chynnes.

 

16.   Parhaodd Steve Woosey â’r cyflwyniad.  Dywedodd fod traean y boblogaeth mewn tlodi tanwydd o dan y diffiniad 10%; Fodd bynnag nid yw’r rheini sydd mewn tlodi tanwydd yn pwyso ar wleidyddion neu eraill i'w helpu.  Esboniodd sut y dechreuodd y prosiect gan ddefnyddio arian o'r gronfa argyfwng Npower flaenorol.  Soniodd Steve Woosey am dlodion tanwydd, a hefyd am grwpiau eraill sy'n agored i niwed, gan gynnwys yr henoed, teuluoedd ifanc, y rhai a adawyd yn weddw’n ddiweddar a allai fod yn agored i niwed, ond nid o reidrwydd mewn tlodi tanwydd. Gwerthfawrogir NEST yn fawr ond gall amrywio, fel arian ECO, ac nid yw pawb sy'n agored i niwed yn bodloni'r meini prawf.

17.   Yn Sir y Fflint, amcangyfrifir bod 12,000 o bobl mewn tlodi tanwydd ond nid ydynt yn mynd ati i chwilio am gymorth eu hunain.  Mae’n rhaid ichi fynd allan a chwilio am y bobl fwyaf agored i niwed er mwyn eu helpu, ni wnânt hwy ddod atoch chi.  Mae angen cyngor da ar bobl, cyfranogiad awdurdodau lleol, arian i’w wario a gweithio ar y cyd.  Mae angen goruchwyliaeth dda o'r prosiect ac mae’r awdurdod lleol mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflawni'r rôl hon fel darparwr cymeradwy yn ogystal â ffynhonnell gyllid. 

 

18.   Mae gan Sir y Fflint rai cynlluniau sy'n cynhyrchu arian y gellir wedyn ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau. Fodd bynnag, nid pawb sydd angen cymorth ariannol.  Dim ond cyngor sydd ei angen ar rai pobl, ac mae rhai angen eu cyfeirio. Dim ond dau o feini prawf sydd; rhaid gwasanaethu pawb sy'n agored i niwed a dylid rhoi cyngor yn y cartref fel y ceir pecyn cyflawn, h.y. gwirio pob offer, rhoi cyngor ar ynni.

 

19.   Rhoddodd Steve Woosey rai ffigurau pennawd, cafwyd 570 o gleientiaid; 1,200 o fesurau; roedd angen cymorth a chyngor yn unig ar 40%; yr arbediad cyfartalog fesul cartref yw £313 y flwyddyn.  Mae gan y cynllun gyllideb o £160,000 dros ddwy flynedd. 

 

20.   Fel rhan  o brosiect sy’n cael ei redeg yn y Wirral, tynnodd Joanna Seymour hefyd sylw at y ffaith y cafwyd cyfraniad gan weithwyr rheng flaen ar draws asiantaethau a sefydliadau, gan gynnwys nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd, therapyddion galwedigaethol, a daeth y cyllid gan Iechyd y Cyhoedd cyn canllawiau NICE.  Mae Iechyd y Cyhoedd wedi'i ymgorffori yn yr awdurdodau lleol yn Lloegr, ac wedyn gyda chanllawiau NICE roedd ysgogiad ychwanegol.

 

21.   O safbwynt gwleidyddol, soniodd Mark Isherwood AC fod yr holl drafodaeth yn ymwneud ag ymyrraeth gynnar a chydgysylltu Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol ac roedd yn bwysig edrych ar beth mae hyn yn ei olygu 'ar lawr gwlad', a’i ddeall.

 

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

22.   Darparwyd copïau o'r adroddiad blynyddol i randdeiliaid ynghyd â datganiad ariannol ar gyfer 2015.  

 

23.   Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cynhaliodd y Grŵp Trawsbleidiol un cyfarfod (cafodd cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 25 Mehefin 2015 ei ganslo oherwydd diffyg presenoldeb).   Roedd y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2015 yn canolbwyntio ar y camau y mae Ofgem yn eu cymryd i ymchwilio i’r ffordd y mae cyflenwyr ynni’n trin cwsmeriaid sy’n talu ymlaen llaw a’u gwaith ar ddefnyddwyr agored i niwed fel yr amlinellwyd yn y Strategaeth Consumer Vulnerability a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013.  Yn ychwanegol at hynny, rhoddodd Andrew Regan, Swyddog Polisi Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru a Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwr, NEA Cymru gyflwyniad ar y meysydd blaenoriaeth allweddol i weithredu arnynt. Roedd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru am i Lywodraeth nesaf Cymru roi y rhain ar waith i fynd i'r afael ag argyfwng cartrefi oer Cymru.  

 

Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

 

24.   Cyn i Mark Isherwood gamu i lawr fel Cadeirydd, cynigiodd Carole Morgan-Jones ac Andrew Regan fel cyd-ysgrifenyddion y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac eiliodd Craig Anderson. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad, ac fe'i cymeradwywyd gan yr Aelodau. 

 

25.   Tynnodd Carole Morgan-Jones sylw at y ffaith bod Mark Isherwood AC wedi cadeirio'r Grŵp ers 2009 a chynigiodd ei fod yn parhau ac eiliodd Craig Anderson. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad a chafodd Mark Isherwood ei ethol yn Gadeirydd. 

 

26.   Mae’r Grŵp Trawsbleidiol wedi gwario £22.80 hyd yma ar luniaeth yn ystod 2015.

 

27.   Bydd y grŵp yn cael ei ddiddymu ar ôl y Pasg 2016 (diwedd mis Mawrth) pan fydd pob grŵp trawsbleidiol yn dod i ben wrth baratoi ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn dilyn yr etholiadau, bydd angen gwahodd Aelodau’r Cynulliad ac ailsefydlu’r grŵp.

 

28.   Diolchodd Carole Morgan-Jones i Mark Isherwood AC am gadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol.

 

29.   Daeth y cyfarfod i ben.



[1]  Ymddiriedolaeth BRE a Shelter Cymru, 'Cost tai gwael yng Nghymru' (2011)



[i]http://www.nea.org.uk/Resources/NEA/Publications/2013/MANIFESTO%20FOR%20WARMTH%20 (LO%20RES)%20CS6.pdf